Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar barth campaign.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar is-barthau service.gov.uk (er enghraifft, www.registertovote.service.gov.uk) neu ar GOV.UK
Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth sy’n cynnal y wefan hon. Fe’i cynlluniwyd i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:
- gwneud yr hyn sydd ar y sgrin 300% yn fwy heb broblemau
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: Er enghraifft:
- nid yw eitemau’r brif ddewislen yn defnyddio cyferbynnedd lliw clir pan fyddant yn y cyflwr ffocws
Gwasanaethau GOV.UK
Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion am ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch weld y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i’r gwasanaeth.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Dywedwch wrthym os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol.
Yn eich neges, dylech gynnwys:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y fformat sydd ei angen arnoch – er enghraifft, testun plaen, braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu CD sain
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y sefydliad i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat gwahanol.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Os byddwch chi’n cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r lliwiau a ddefnyddir yn y brif ddewislen, pan fyddant yn y cyflwr ffocws, yn cyfateb i’r cyferbyniad lliw sylfaenol.
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WAG 2.1.3 (Cyferbyniad (Sylfaenol)).
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 25 Mai 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30 Gorffennaf 2024.