Efallai eich bod yn meddwl y gall eich partner neu aelodau agos o’ch teulu wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych yn gallu gwneud hynny, ond nid dyna’r gwir. Pe bai’n rhaid iddyn nhw dalu eich biliau neu wneud penderfyniad ynghylch eich gofal, byddai angen awdurdod cyfreithiol arnyn nhw i wneud hynny.
Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw gamu i mewn yn gyflym ac yn ddidrafferth pan fydd ei angen fwyaf arnoch chi. Mae nid yn unig yn rhoi llais i chi, mae’n diogelu eich penderfyniadau.
Mae dau fath gwahanol
Eiddo a materion ariannol
Mae LPA eiddo a materion ariannol yn rhoi’r pŵer i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt wneud penderfyniadau am eich arian a’ch eiddo. Er enghraifft:
-
- talu biliau
-
- rheoli banc neu gymdeithas adeiladu
-
- casglu budd-daliadau neu bensiwn
-
- gwerthu eich cartref
Gellir defnyddio’r pwerau hyn ar unrhyw adeg, ond dim ond pan fyddwch wedi nodi ei bod yn iawn gwneud hynny.
Iechyd a lles
Mae LPA iechyd a lles yn rhoi’r pŵer i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt wneud penderfyniadau ar eich rhan am eich iechyd a’ch lles. Er enghraifft:
-
- eich trefn ddyddiol fel ymolchi, bwyta a gwisgo
-
- gofal meddygol
-
- symud i gartref gofal
-
- triniaeth cynnal bywyd
Rydych chi’n gwneud cais ac yn ei chofrestru nawr, ond dim ond os na allwch chi wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol y bydd yn cael ei defnyddio.
Y dudalen nesaf: