Atwrneiaeth arhosol
Os byddwch yn colli’r gallu i wneud rhai penderfyniadau penodol, bydd atwrneiaeth arhosol (LPA) yn cadw’r penderfyniadau hynny yn nwylo’r bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.
Mae LPA yn ei gwneud hi’n haws i’r bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw eich cefnogi pan fydd ei angen fwyaf arnoch chi.
Gallai fod i helpu gyda phenderfyniadau am gyllid yn ystod arhosiad byr yn yr ysbyty, neu gymorth i reoli penderfyniadau am eich iechyd a’ch gofal yn y tymor hwy.
Beth yw atwrneiaeth arhosol?
Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Ble i ddechrau
Dechreuwch sgwrs heddiw gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.
Straeon go iawn
Pobl ledled Cymru a Lloegr yn rhannu eu profiad o atwrniaethau arhosol.
Gweithio gyda’n gilydd
Rydym am weithio gyda phartneriaid a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo manteision cael LPA.
Cefnogwch yr ymgyrch drwy ddefnyddio’r pecyn adnoddau.
Mae’r pecyn yn cynnwys taflen, erthygl cylchlythyr, posteri, delweddau a thestun ar gyfer negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a sgriniau digidol.