Skip to main content

Ble i ddechrau


Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddefnyddiol i bawb dros 18 oed. Ni all partner neu aelod agos o’r teulu wneud llawer o benderfyniadau ar eich rhan heb awdurdod cyfreithiol. Mae’r fideo hwn yn trafod y camau cyntaf wrth sefydlu eich atwrneiaeth arhosol.
 
Mae fersiynau Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg o’r animeiddiad hwn ar gael i’w gwylio ar YouTube.

Ble i ddechrau

1. Dechreuwch sgwrs gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt

Yn gyntaf, siaradwch â rhywun y byddech yn ymddiried ynddynt i gyflawni eich dymuniadau. Byddant yn cael eu galw’n ‘atwrnai’ i chi.

Does dim rhaid iddynt fod yn bartner neu’n aelod o’r teulu a gallwch enwi mwy nag un unigolyn os dymunwch.

Mae angen iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn a deall yn llawn y rôl y byddant yn ei chyflawni. Cymerwch amser i drafod y mater fel eu bod yn deall eich dewisiadau a’ch penderfyniadau.

Hand drawn group of people

2. Penderfynwch pa atwrneiaeth arhosol (LPA) sy’n addas i chi

Mae dau fath:

  • eiddo a materion ariannol
  • iechyd a lles

 

 

A hand drawn basic representation of an LPA document

3. Dechreuwch eich cais

Ewch i GOV.UK a dewis naill ai:

  • dechrau eich cais ar-lein gyda chanllawiau ar bob cam
  • lawrlwytho, argraffu a llenwi’r ffurflenni â llaw
Hand drawn laptop

Oes modd gostwng fy ffi?

Mae pob cais am atwrneiaeth arhosol yn costio £92. Fodd bynnag, efallai gallwch chi haneru’r gost hon, neu beidio â thalu ffi o gwbl os ydych chi’n ennill llai na £12,000 y flwyddyn, neu os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau.

I weld a oes gennych chi hawl i ostyngiad ar y ffi, ac i wneud cais am un ochr yn ochr â’ch cais am LPA, llwythwch y ffurflen gais i lawr oddi ar GOV.UK a’i llenwi.

British pound sign

Y dudalen nesaf:

Straeon go iawn