Skip to main content
A father and son laughing together

Atwrneiaeth Arhosol - Eich llais, eich penderfyniad. Mae’r geiriau ‘eich llais, eich penderfyniad’ mewn swigen siarad felyn. Dyma logo’r ymgyrch.

Atwrneiaeth arhosol

Os byddwch yn colli’r gallu i wneud rhai penderfyniadau, bydd atwrneiaeth arhosol (LPA) yn cadw’r penderfyniadau hynny yn nwylo’r bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.

Efallai byddech chi’n disgwyl y byddai bod yn ‘berthynas agosaf’ yn rhoi’r gallu’n awtomatig i chi wneud penderfyniadau ar ran y bobl hynny sydd agosaf atoch chi — ond nid felly mae hi.

Heb LPA does neb, gan gynnwys aelodau’r teulu, yn cael gweithredu ar ran person os nad yw’r person hwnnw’n gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun. Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at gyfrifon banc, gwneud dewisiadau am ofal, neu drin materion eraill.

Mae LPA yn ei gwneud hi’n haws i’r bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i’ch cefnogi chi pan fydd arnoch ei angen fwyaf.

Beth yw atwrneiaeth arhosol?

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw wneud penderfyniadau ar eich rhan.

 

Llun agos o law rhywun yn llofnodi dogfen gyfreithiol

Ble i ddechrau

Dechreuwch sgwrs heddiw gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.

 

Two women have a conversation whilst having a hot drink

Straeon go iawn

Pobl ledled Cymru a Lloegr yn rhannu eu profiad o atwrniaethau arhosol.

Shirin yn sefyll yn edrych ar y camera ac yn gwenu

Gweithio gyda’n gilydd

Mae arnom eisiau gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo manteision cael LPA ac annog pobl i ymgeisio.

Cefnogwch yr ymgyrch drwy ddefnyddio’r pecyn adnoddau. 

Mae’r pecyn yn cynnwys taflen, erthygl cylchlythyr, posteri, delweddau a thestun ar gyfer negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a sgriniau digidol.