Hysbysiad preifatrwydd hwn

Darperir y safle hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ar y cyd â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gyhoeddir ar y safle hwn ac unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy gwcis.

Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu fel rhan o ddarparu’r llwyfan sylfaenol fel cyfeiriadau IP.

Mae rheolydd data yn pennu sut a pham mae data personol yn cael ei brosesu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet ar y Gofrestr Gyhoeddus Diogelu Data.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham mae ei angen arnom

Mae GDS yn casglu rhywfaint o ddata yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’r safle hwn. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion pa fersiwn o borwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae GDS yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi mynediad i chi i’r wefan ac i fonitro’r defnydd o’r wefan i ganfod bygythiadau diogelwch.

Pan fyddwch chi’n rhoi eich caniatâd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn defnyddio Google Analytics neu Google Analytics 4 i gasglu’r wybodaeth ganlynol am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan hon:

  • y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw ar GOV.UK
  • faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen GOV.UK
  • sut y daethoch i’r safle
  • beth rydych yn clicio arno wrth ymweld â’r safle
  • syniad bras o’ch lleoliad gan ddefnyddio eich cyfeiriad IP dienw.

Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei hadnabod yn uniongyrchol yn cael ei chasglu drwy Google Analytics neu Google Analytics 4 (er enghraifft eich enw neu eich cyfeiriad). Ni fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eich adnabod drwy wybodaeth ddadansoddi, ac ni fydd yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddi â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n adnabod pwy ydych chi.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i wneud gwelliannau.

Edrychwch ar y dudalen Cwcis i gael rhagor o wybodaeth am y cwcis sy’n cael eu defnyddio ar y wefan hon.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Sail gyfreithiol GDS dros brosesu data personol mewn perthynas â diogelwch safle yw eu buddiannau dilys o ran sicrhau diogelwch ac uniondeb y llwyfan.

Sail gyfreithiol GDS ar gyfer prosesu’r holl ddata personol arall yw ei bod yn angenrheidiol cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer ein swyddogaethau fel un o adrannau’r llywodraeth

Eich caniatâd chi yw sail gyfreithiol OPG ar gyfer casglu eich gwybodaeth gyda Google Analytics neu Google Analytics 4.

Beth rydym yn ei wneud â’ch data

GDS or MoJ may share data with other government departments, agencies and Gall GDS neu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder rannu data ag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus lle mae angen busnes dilys y gellir ei gyfiawnhau. Gellir rhannu data hefyd â chyflenwyr technoleg, fel darparwyr lletya, sy’n gweithredu fel proseswyr data.

Ni fyddwn yn gwneud y canlynol:

  • gwerthu neu rentu eich data i drydydd partïon
  • rhannu eich data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
  • defnyddio’r data dadansoddeg i adnabod unigolion h.y. drwy gysylltu â setiau data eraill

Byddwn yn rhannu eich data os bydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, drwy orchymyn llys, neu i atal twyll neu drosedd arall.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd ei angen at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon neu cyhyd ag y bo’r gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny.

Bydd GDS yn dileu data log mynediad ar ôl 120 diwrnod.

Bydd [ENW’R ADRAN] yn dileu data Google Analytics neu Google Analytics 4 ar ôl [I’W GADARNHAU GAN YR ADRAN].

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw’r wefan hon wedi’i chynllunio ar gyfer plant 13 oed neu iau, nac wedi’i thargedu’n fwriadol at y cyfryw blant. Nid yw’r GDS na’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn casglu nac yn cadw data am unrhyw un o dan 13 oed yn fwriadol.

Ble caiff eich data ei brosesu a’i storio

Mae data sy’n gysylltiedig â’r llwyfan sylfaenol yn cael ei brosesu a’i storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Mae’n bosibl y bydd data a gesglir gan Google Analytics neu Google Analytics 4 yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd i’w brosesu.

Sut rydym yn diogelu eich data ac yn ei gadw’n ddiogel

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data’n ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad neu ddatgelu eich data heb awdurdod – er enghraifft, rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio.

Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr bod unrhyw drydydd partïon rydyn ni’n delio â nhw yn cadw’r holl ddata personol maen nhw’n ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn am:

  • wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • copi o’r data personol hwnnw
  • bod unrhyw beth anghywir yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith

Gallwch hefyd:

  • wrthwynebu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • gofyn am i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad dros ei gadw mwyach
  • gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau

Os ydych am wneud unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk

Cysylltu â ni neu wneud cwyn

Cysylltwch â Thîm Preifatrwydd GDS yn gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk:

  • os oes gennych chi gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
  • os ydych chi’n meddwl bod eich data personol wedi cael ei drin neu ei ddefnyddio’n amhriodol

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Cabinet a Swyddogion Diogelu Data (DPO) y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

Data Protection Officer
DPO@cabinetoffice.gov.uk
Cabinet Office
70 Whitehall
Llundain
SW1A 2AS

Data Protection Officer
Ministry of Justice
3rd Floor, Post Point 3.20
10 South Colonnades
Canary Wharf
Llundain
E14 4PU

E-bost: dpo@justice.gov.uk

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro’n defnydd o wybodaeth bersonol.

Gallwch hefyd gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.

Comisiynydd Gwybodaeth
casework@ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Gellir newid yr hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, bydd y GDS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Gorffennaf 2024.