Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddefnyddiol i bawb dros 18 oed. Ni all partner neu aelod agos o’r teulu wneud llawer o benderfyniadau ar eich rhan heb awdurdod cyfreithiol. Mae’r fideo hwn yn trafod y camau cyntaf wrth sefydlu eich atwrneiaeth arhosol.
Mae fersiynau Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg o’r animeiddiad hwn ar gael i’w gwylio ar YouTube.
Ble i ddechrau
1. Dechreuwch sgwrs gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt
Yn gyntaf, siaradwch â rhywun y byddech yn ymddiried ynddynt i gyflawni eich dymuniadau. Byddant yn cael eu galw’n ‘atwrnai’ i chi.
Does dim rhaid iddynt fod yn bartner neu’n aelod o’r teulu a gallwch enwi mwy nag un unigolyn os dymunwch.
Mae angen iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn a deall yn llawn y rôl y byddant yn ei chyflawni. Cymerwch amser i drafod y mater fel eu bod yn deall eich dewisiadau a’ch penderfyniadau.

2. Penderfynwch pa atwrneiaeth arhosol (LPA) sy’n addas i chi
Mae dau fath:
- eiddo a materion ariannol
- iechyd a lles

3. Dechreuwch eich cais
Ewch i GOV.UK a dewis naill ai:
- dechrau eich cais ar-lein gyda chanllawiau ar bob cam
- lawrlwytho, argraffu a llenwi’r ffurflenni â llaw

Faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae’n costio £82 i gofrestru pob atwrneiaeth arhosol, felly mae cofrestru’r ddau fath yn costio £164. Fodd bynnag, efallai y gallwch gael gostyngiad o 50% os yw eich incwm blynyddol gros yn llai na £12,000 y flwyddyn. Efallai na fydd angen i chi dalu ffi o gwbl os ydych yn cael rhai budd-daliadau prawf modd.
Edrychwch i weld a oes gennych chi hawl i ostyngiad yn y ffi a gwnewch gais am un ochr yn ochr â’ch cais am atwrneiaeth arhosol drwy lawrlwytho’r ffurflen gais oddi ar ein gwefan.

Y dudalen nesaf: